Gorchymyn Cadw a Hyfforddi

  • Ar gael i blant a phobl ifanc rhwng 12 ac 17 oed. Os yw’r plentyn neu’r unigolyn ifanc yn 12 – 14 oed, ni ellir ond gwneud y gorchymyn os yw’n droseddwr mynych.
  • Isafswm hyd y DTO yw 4 mis, a’r uchafswm yw 24 mis. Gellir gosod DTOs yn olynol ar yr amod nad yw’r cyfanswm yn fwy na’r cyfnod mwyaf.
  • Rhaid ystyried adroddiad cyn-dedfrydu ysgrifenedig.
  • Rhaid i’r trosedd(au) fod mor ddifrifol fel mai dedfryd dan glo yw’r unig gosb briodol. Mae angen rhoi rhesymau pam na ellir cyfiawnhau Gorchymyn Adsefydlu Pobl Ifanc ynghyd â goruchwyliaeth a gwyliadwraeth ddwys/maethu.

Am y trosedd(au) rydym yn gwneud gorchymyn cadw a hyfforddi am gyfnod o ………… mis.

[Lle ceir mwy nag un trosedd, nodwch a ydynt yn gydredol neu’n gydolynol.]

  1. Rydym yn credu bod hyn yn angenrheidiol oherwydd bod y trosedd(au) mor ddifrifol fel mai cadw dan glo yw’r unig ddewis oherwydd …………

[Defnyddiwch eich ffurflen ddedfrydu i nodi eich rhesymau, gan gynnwys:

    • Eich asesiad o’r amgylchiadau gwaethygol neu liniarol sy’n pennu lefel y beiusrwydd a maint y niwed a achoswyd (trosedd).
    • Lliniariad personol (troseddwr) y plentyn neu’r unigolyn ifanc.]

Rydym wedi lleihau eich dedfryd oherwydd eich bod wedi pledio’n euog. Pe na fyddech wedi pledio’n euog, byddai wedi bod yn ………….

Bydd…………diwrnod yr ydych wedi’u treulio ar gyrffyw â thag yn cyfrif tuag at y ddedfryd hon.

Lle mae’r diffynnydd wedi bod ar gyrffyw mechnïaeth â thag cymwys

Rydych eisoes wedi treulio […………nodwch yma nifer y dyddiau] ar gyrffyw mechnïaeth â thag ac wedi gorfod aros mewn cyfeiriad penodol am naw awr neu fwy pob dydd.

[Os yw’r diffynnydd yn dal ar gyrffyw â thag] Nid ydym yn cyfrif heddiw gan y byddwch yn treulio amser yn y carchar.

[Os yw’n berthnasol] Rydym yn lleihau’r cyfnod […………nodwch yma nifer y dyddiau] oherwydd eich bod yn cael eich rhyddhau dros dro/yn destun gorchymyn/gorchymyn cadw a hyfforddiant oedd yn cynnwys gofyn bod ar gyrffyw â thag.

O’r herwydd mae […………nodwch y dyddiau yma h.y. y cyfnod y cyfrifir y credyd] yn cyfrif tuag at eich dedfryd.

Bydd yr awdurdod/Sefydliad Troseddwyr Ifanc priodol yn cyfrifo sut y bydd hyn yn cael effaith ar eich dyddiad rhyddhau. Os bu camgymeriad wrth ddod i’r ffigur hwn, mae modd ei gywiro heb i chi orfod dod yn ôl i’r llys.

Ni allwn gyfiawnhau gosod gorchymyn ailsefydlu ieuenctid gyda goruchwyliaeth a gwyliadwriaeth neu faethu dwys oherwydd …………

[neu]

  1. canfyddwn eich bod wedi torri eich gorchmynion ailsefydlu ieuenctid yn fwriadol ac yn gyson trwy ………… [rhowch fanylion].

Mae’r llys bellach wedi penderfynu nad oes ganddo ddewis ond rhoi dedfryd o garchar am gyfnod o ………… mis.

[Os yw’n berthnasol.] Rydym wedi ystyried y ffaith eich bod wedi cydymffurfio â rhyw gymaint o’ch gorchymyn.

Bydd yr amser yr ydych eisoes wedi ei dreulio ar remand yn cael ei gyfrifo gan y Sefydliad Troseddwyr Ifanc a bydd yn cyfrif tuag at y ddedfryd hon.

Fel arfer, byddwch yn cael eich rhyddhau unwaith y byddwch wedi treulio hanner eich dedfryd. Cewch wybod beth i’w wneud pan gewch eich rhyddhau. Os na fyddwch yn gwneud yr hyn y gofynnir i chi ei wneud, byddwch yn gorfod dod yn ôl i’r llys, efallai’n cael eich dirwyo, gorfod cael eich goruchwylio am gyfnod pellach neu gael eich anfon yn ôl i’r carchar.

Ydych chi’n deall?

[Ystyriwch unrhyw orchmynion ategol.]

Rhaid i chi hefyd dalu gordal o £………… Defnyddir yr arian hwn i ariannu gwasanaethau i ddioddefwyr.