Gorchymyn atgyfeirio

  • Ar gael ar gyfer pob unigolyn ifanc.
  • Rhaid rhoi gorchymyn atgyfeirio yng nghyswllt bob unigolyn ifanc sydd heb gael ei euogfarnu o’r blaen ac sy’n pledio’n euog i unrhyw drosedd carcharol, oni bai bod y llys yn ystyried dedfryd o ryddhad diamod, rhyddhad amodol, gorchymyn dan y Ddeddf Iechyd Meddwl neu ddedfryd o gadw dan glo. Nid yw gorchmynion ymrwymo a rhyddhad (diamod neu amodol) blaenorol yn euogfarnau blaenorol i’r diben hwn, felly nid ydynt yn cael unrhyw effaith ar y darpariaethau gorchymyn atgyfeirio gorfodol.
  • Gellir rhoi gorchymyn atgyfeirio pan fo unigolyn ifanc wedi pledio’n euog i o leiaf un o’r troseddau sydd gerbron y llys ar gyfer dedfryd, waeth beth yw’r euogfarnau blaenorol.
  • Rhaid i hyd y gorchymyn fod am dri mis o leiaf ac am 12 mis ar y mwyaf.
  • Mae’r gorchymyn mewn grym o’r dyddiad y mae’r contract yn cael ei lofnodi (nid dyddiad y llys).
  • Rhaid i’r llys orchymyn rhiant/gwarcheidwad i fynychu cyfarfodydd y Panel Troseddwyr Ifanc yng nghyswllt unigolyn ifanc rhwng 10 a 15 oed, a gall orchymyn bod y rhiant yn bresennol yng nghyswllt unigolion ifanc rhwng 16 ac 17 oed. Gall peidio â mynychu cyfarfod o’r panel arwain at ddwyn y rhiant yn ôl gerbron y llys.

Am y trosedd(au) o ………… rydym yn gwneud gorchymyn atgyfeirio am gyfnod o ………… mis. Mae hyn oherwydd …………

Byddwch yn cwrdd â phanel o bobl sydd yno i’ch helpu. Gallwch siarad â nhw amdanoch chi’ch hun a’ch troseddu ………… [rhowch fanylion]

Byddant hwy wedyn yn gofyn i chi gytuno i gontract a fydd yn cynnwys gweithgareddau i’ch atal rhag troseddu eto ac yn gofyn i chi ei lofnodi. Bydd y gorchymyn yn dechrau ar y diwrnod y byddwch yn llofnodi’r contract.

Os na fyddwch yn llofnodi’r contract, neu os na fyddwch yn gwneud y pethau sydd wedi’u rhestru ynddo, mae’n bosibl y gelwir chi yn ôl i’r llys ac y rhoddir dedfryd wahanol i chi.

Rhaid i [Nodwch enw/enwau’r rhiant/rhieni, gwarcheidwad/gwarcheidwaid, cynrychiolydd/cynrychiolwyr awdurdod lleol] ………… hefyd fynychu’r cyfarfodydd. Os nad ydynt yn mynychu, efallai y byddant yn gorfod dod yn ôl i’r Llys.

Bydd Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid …………. yn goruchwylio eich gorchymyn.

[Ystyriwch unrhyw orchmynion ategol.]

Rhaid i chi hefyd dalu gordal o £………… Defnyddir yr arian hwn i ariannu gwasanaethau i ddioddefwyr

Ydych chi’n deall?