Gorchymyn atal niwed rhywiol

Rydym yn gwneud gorchymyn atal niwed rhywiol am gyfnod o…………

Rydych wedi cyflawni (a) trosedd(au) rhywiol ac mae angen gwarchod y cyhoedd rhag niwed rhywiol gennych chi.

Gwaharddiad(au)

[Ailadroddwch yn ôl yr angen] Am y …… [nodwch gyfnod] nesaf ni ddylech …………

[ a/neu]

Gofyniad/Gofynion Cadarnhaol

[Ailadroddwch yn ôl yr angen] Am y ………… [nodwch gyfnod] nesaf rhaid i chi…………

[Nodwch yn fanwl pa waharddiadau a / neu ofynion yr ydych yn eu gosod yn seiliedig ar ymddygiad y diffynnydd.]

[Yr unig waharddiadau y gellir eu gorfodi yw’r rhai hynny sy’n angenrheidiol at y pwrpas o warchod y cyhoedd rhag niwed rhywiol gan y diffynnydd. Pan fo teithio dramor wedi’i wahardd, rhaid i’r llys orchymyn bod unrhyw basbort yn cael ei ildio.

[Os yn berthnasol] Yn ystod y cyfnod hwn, ………… bydd [nodwch enw’r unigolyn / sefydliad] yn goruchwylio eich cydymffurfiaeth â’r gofyniad hwn. Rhaid i chi aros mewn cysylltiad â nhw yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir ganddynt o dro i dro, a’i hysbysu am unrhyw newid i’ch cyfeiriad cartref.

Os byddwch yn torri amodau’r gorchymyn hwn byddwch yn cyflawni trosedd difrifol a gallwch gael eich anfon i’r carchar.

Peidiwch â gadael adeilad y llys hyd nes y byddwch wedi cael copi o’r gorchymyn.