- Rhaid iddo gynnwys un neu fwy o 15 gofyniad.
- Rhaid i’r trosedd fod yn ‘ddigon difrifol’ i haeddu cosb gymunedol, ond nid oes angen iddo fod yn drosedd carcharol.
- Ni all llys osod YRO ar adeg pan fo YRO arall mewn grym, oni bai ei fod yn dirymu’r gorchymyn cynharach.
- Nid oes cyfnod byrraf, ond rhaid i’r gorchymyn fod am 3 blynedd ar y mwyaf. Serch hynny, gellir atodi gofynion gwahanol i orchymyn ar gyfnodau gwahanol fel y nodir yn y gorchymyn. Rhaid i Orchymyn Adsefydlu Ieuenctid fod yr un hyd â’r gofyniad hiraf. Rhaid i ofyniad goruchwylio fod yr un fath â dyddiad terfynu’r gorchymyn.
- Cyn gwneud gorchymyn adsefydlu ieuenctid, rhaid i’r llys gael ac ystyried gwybodaeth am amgylchiadau teuluol y troseddwr ac effaith debygol gorchymyn o’r fath ar yr amgylchiadau hynny. Yn ogystal, rhaid i’r llys sicrhau bod unrhyw ofynion yn cydweddu â’i gilydd ac nad ydynt yn gwrthdaro â chredoau crefyddol y troseddwr, nac yn ymyrryd â’i addysg.
Am y trosedd(au) o ………… rydym yn gwneud gorchymyn adsefydlu ieuenctid.
Bydd hwn yn parhau am ………… mis tan …………[nodwch ddyddiad terfynu’r gorchymyn].
Bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol: ………… [Nodwch eiriad y gofyniad unigol a ddangosir dros y dudalen, fel sy’n briodol.]
Os byddwch yn torri unrhyw un/rai o’r gofynion, neu’n cyflawni trosedd arall tra bo’ch gorchymyn mewn grym, efallai y bydd yn rhaid i chi ddod yn ôl i’r llys a gallai’r llys hwnnw ddelio â chi mewn rhyw ffordd arall. Rhaid i chi ddweud wrth eich swyddog Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid a’r llys os byddwch yn newid eich cyfeiriad.
Os na allwch fynd i apwyntiadau oherwydd salwch, bydd eich swyddog cyfrifol angen gweld tystysgrif feddygol. Os na fyddwch chi’n darparu’r dystysgrif, byddwch yn torri rheolau’r gorchymyn hwn, ac efallai y byddwch yn cael eich dwyn yn ôl i’r llys.
Gallwch chi neu’ch swyddog ofyn i’r llys edrych eto ar y gorchymyn hwn os bydd eich amgylchiadau’n newid.
Rydym yn gwneud y gorchymyn hwn oherwydd bod y trosedd(au) yn ddigon difrifol i gyfiawnhau gorchymyn cymunedol ar ôl ystyried pob un o’r canlynol …………
[Gan ddefnyddio eich ffurflen ddedfrydu, nodwch eich rhesymau, gan gynnwys:
- Yr amgylchiadau gwaethygol neu liniarol sy’n pennu lefel y beiusrwydd a maint y niwed a achoswyd (trosedd).
- Lliniariad personol (troseddwr) y plentyn neu’r unigolyn ifanc.
- Y rhesymau dros wneud gofyniad triniaeth (angen cydsyniad).]
Rydym wedi lleihau’ch dedfryd oherwydd eich bod wedi pledio’n euog. Pe na baech wedi gwneud hynny, byddem wedi rhoi dedfryd o ………… i chi
Rhaid i chi hefyd dalu gordal o £………… Defnyddir yr arian hwn i ariannu gwasanaethau i ddioddefwyr.
Ydych chi’n deall?
[Ystyriwch unrhyw orchmynion ategol.]