Gorchymyn adsefydlu ieuenctid gyda maethu

  • Rhaid i’r trosedd fod yn drosedd carcharol a rhaid i’r llys fod o’r farn fod y trosedd yn un mor ddifrifol nes y byddai dedfryd o garchar yn briodol h.y. lle y gellid rhoi dedfryd o 4 mis o leiaf.
  • Yn ogystal, os yw’r unigolyn ifanc dan 15 oed pan geir ef/hi yn euog, rhaid i’r llys fod yn fodlon ei fod/ bod yn droseddwr mynych.
  • Rhaid i gyfnod y gofyniad maethu ddod i ben ddim hwyrach na 12 mis ar ôl dyddiad y gorchymyn, ac ni all gynnwys unrhyw gyfnod ar ôl i’r troseddwr gyrraedd 18 oed.
  • Rhaid i’r llys fod yn fodlon fod yr amgylchiadau roedd yr unigolyn ifanc yn byw ynddynt yn ffactor o bwys yn y trosedd, ac y byddai pennu gofyniad maethu o gymorth i adsefydlu’r unigolyn ifanc.

Mae’r trosedd(au) o ………… mor ddifrifol y gellid bod wedi rhoi dedfryd o garchar. Fodd bynnag, rydym yn gwneud gorchymyn adsefydlu ieuenctid gyda maethu.

Bydd hwn yn para am ………… mis ac yn dod i ben ar ………… Bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:

1. Maethu – rhaid ichi fyw gyda rhiant maeth awdurdod lleol am y ………… mis nesaf tan …………[rhowch ddyddiad].

2. Goruchwyliaeth – Byddwch o dan oruchwyliaeth swyddog Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid tan ………… [rhowch ddyddiad] a bydd yn rhaid ichi ddilyn pob cyfarwyddyd a roddir ichi a chadw pob un o’ch apwyntiadau.

[Ychwanegwch unrhyw ofyniad ychwanegol fel sy’n briodol.]

Os byddwch yn torri unrhyw un/rai o’r gofynion, neu’n cyflawni trosedd arall tra bo’ch gorchymyn mewn grym, efallai y bydd yn rhaid i chi ddod yn ôl i’r llys a gallai’r llys hwnnw ddelio â chi mewn rhyw ffordd arall. Rhaid i chi ddweud wrth eich swyddog Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid a’r llys os byddwch yn newid eich cyfeiriad.

Os na allwch fynd i apwyntiadau oherwydd salwch, bydd angen i’ch swyddog Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid weld tystysgrif feddygol. Os na fyddwch chi’n darparu’r dystysgrif, byddwch yn torri rheolau’r gorchymyn hwn, ac efallai y byddwch yn cael eich dwyn yn ôl i’r llys.

Gallwch chi neu’ch swyddog ofyn i’r llys edrych ar y gorchymyn hwn eto os bydd eich amgylchiadau’n newid.

Rydym yn gwneud y gorchymyn ar ôl ystyried y canlynol:

[Gan ddefnyddio eich ffurflen ddedfrydu, nodwch eich rhesymau, gan gynnwys:

  • Yr amgylchiadau gwaethygol neu liniarol sy’n pennu lefel y beiusrwydd a maint y niwed a achoswyd (trosedd).
  • Lliniariad personol (troseddwr) y plentyn neu’r unigolyn ifanc.
  • Rhesymau dros wneud gofyniad triniaeth (angen cydsyniad).]

[Lle bo hynny’n briodol.] Rydym wedi lleihau’ch dedfryd oherwydd eich bod wedi pledio’n euog. Pe na baech wedi gwneud hynny, byddem wedi rhoi dedfryd o ………… i chi

Rhaid i chi hefyd dalu gordal o £………… Defnyddir yr arian hwn i ariannu gwasanaethau i ddioddefwyr

Ydych chi’n deall?