- Rhaid i’r trosedd fod yn drosedd carcharol a rhaid i’r llys fod o’r farn fod y trosedd yn un mor ddifrifol nes y byddai dedfryd o garchar yn briodol h.y. lle y gellid rhoi dedfryd o 4 mis o leiaf.
- Yn ogystal, os yw’r unigolyn ifanc dan 15 oed pan geir ef/hi yn euog, rhaid i’r llys fod yn fodlon ei fod yn droseddwr mynych.
- Ni ellir rhoi gorchymyn adsefydlu ieuenctid gyda goruchwyliaeth a gwyliadwraeth ddwys am gyfnod llai na 6 mis a gellir ei ymestyn am gyfnod o hyd at 3 blynedd. Serch hynny, gellir atodi gofynion gwahanol i’r gorchymyn ar gyfnodau gwahanol fel y nodir yn y gorchymyn.
- Rhaid i unrhyw weithgaredd fod am fwy na 90 diwrnod a dim mwy na 180 diwrnod.
Mae’r trosedd(au) o ………… mor ddifrifol y gellid bod wedi rhoi dedfryd o garchar. Fodd bynnag, rydym yn gwneud gorchymyn adsefydlu ieuenctid gyda goruchwyliaeth a gwyliadwraeth ddwys.
Bydd hwn yn para am ………… mis ac yn dod i ben ar ………… Bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:
1. Gweithgaredd estynedig – Mae’n rhaid i chi wneud ………… diwrnod o weithgaredd [preswyl] yn unol â chyfarwyddyd eich swyddog Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid. Rhaid i hwn gael ei gwblhau erbyn ………… [rhowch ddyddiad].
2. Cyrffyw – Mae’n rhaid i chi aros yn y cyfeiriad a roddwyd rhwng ………… ar y diwrnodau canlynol ………… Bydd tag electronig yn cael ei osod gan y cwmni monitro yn eich cyfeiriad yn ystod oriau’r cyrffyw. Bydd y gorchymyn yn para am ………… mis/wythnos/diwrnod tan ………… [rhowch ddyddiad]. Rhaid i chi beidio ag ymyrryd â’r tag na’r uned sylfaen.
3. Goruchwyliaeth – Byddwch o dan oruchwyliaeth swyddog Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid tan ………… [rhowch ddyddiad] a bydd yn rhaid ichi ddilyn pob cyfarwyddyd a roddir ichi a chadw pob un o’ch apwyntiadau.
[Ychwanegwch unrhyw ofyniad ychwanegol fel sy’n briodol.]
Os byddwch yn torri unrhyw un/rai o’r gofynion, neu’n cyflawni trosedd arall tra bo’ch gorchymyn mewn grym, efallai y bydd yn rhaid i chi ddod yn ôl i’r llys a gallai’r llys hwnnw ddelio â chi mewn rhyw ffordd arall. Rhaid i chi ddweud wrth eich swyddog Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid a’r llys os byddwch yn newid eich cyfeiriad.
Os na allwch fynd i apwyntiadau oherwydd salwch, bydd angen i’ch swyddog Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid weld tystysgrif feddygol. Os na fyddwch chi’n darparu’r dystysgrif, byddwch yn torri rheolau’r gorchymyn hwn, ac efallai y byddwch yn cael eich dwyn yn ôl i’r llys.
Gallwch chi neu’ch swyddog ofyn i’r llys edrych ar y gorchymyn hwn eto os bydd eich amgylchiadau’n newid.
Rydym yn gwneud y gorchymyn ar ôl ystyried y canlynol:
[Gan ddefnyddio eich ffurflen ddedfrydu, nodwch eich rhesymau, gan gynnwys:
- Yr amgylchiadau gwaethygol neu liniarol sy’n pennu lefel y beiusrwydd a maint y niwed a achoswyd (trosedd).
- Lliniariad personol (troseddwr) y plentyn neu’r unigolyn ifanc.
- Rhesymau dros wneud gofyniad triniaeth (angen cydsyniad).]
[Lle bo hynny’n briodol.] Rydym wedi lleihau’ch dedfryd oherwydd eich bod wedi pledio’n euog. Pe na baech wedi gwneud hynny, byddem wedi rhoi dedfryd o ………… i chi
Rhaid i chi hefyd dalu gordal o £………… Defnyddir yr arian hwn i ariannu gwasanaethau i ddioddefwyr
Ydych chi’n deall?