Gorchymyn adfer (a.65 Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022)

Rydych wedi’ch cael yn euog o drosedd yn ymwneud â chŵn o dan [Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd –  tresmasu gyda’r bwriad o chwilio am, neu ddilyn, ysgyfarnogod â chŵn, neu rodio â chyfarpar ar gyfer chwilio am neu ddilyn ysgyfarnogod â chŵn][Deddf Potsio Nos – cymryd neu ddinistrio anifeiliaid hela neu gwningod yn ystod y nos, neu fynd ar dir gyda’r bwriad o wneud hynny][Deddf Anifeiliaid Hela – tresmasu yn ystod y dydd i chwilio am anifeiliaid hela].

Yn ystod cyflawni’r drosedd, [defnyddiwyd ci] [roedd ci yn bresennol] ac mae’r ci wedi cael ei atafaelu a’i gadw yn gyfreithlon.

Rhaid i chi dalu £………… am y costau a gododd yn sgil atafaelu a chadw’r ci/cŵn.

Mae hyn oherwydd ………… [Nodwch y rhesymau].

Rydym yn gwneud gorchymyn casglu, sy’n caniatáu i staff y llys sicrhau  bod y swm yn cael ei dalu yn unol â’r gorchymyn. Rhaid i chi  dalu ar y diwrnod(au) pan fyddwch yn cael gorchymyn i wneud hynny a  rhaid i chi hysbysu’r llys o unrhyw newid yn eich  amgylchiadau ariannol neu’ch cyfeiriad. [Nodwch y rhesymau os na wneir gorchymyn casglu.]

Os na fyddwch yn gwneud y taliadau yn unol â’r gorchymyn,  byddwch yn gorfod dod yn ôl i’r llys ac fe allech gael eich anfon i’r carchar.

Ydych chi’n deall?