Gordal
Rhaid i chi hefyd dalu gordal o £………… Defnyddir yr arian hwn i ariannu gwasanaethau i ddioddefwyr.
Costau
Rhaid i chi dalu £………… tuag at gostau’r erlyniad.
[Lle bo’n berthnasol, ystyriwch waharddiad]
Manylion talu
Mae gennych gyfanswm o £………… i’w dalu. Mae’n ddyledus nawr. Allwch ei dalu’n llawn heddiw?
Rydym yn gwneud gorchymyn casglu fel bod staff y llys yn gallu sicrhau y telir y swm a orchmynnwyd. Rhaid i chi dalu ar y diwrnod(au) pan orchmynnir chi i wneud hynny a rhaid i chi roi gwybod i’r llys am unrhyw newid i’ch amgylchiadau ariannol neu gyfeiriad. [Rhowch y rhesymau os na wneir gorchymyn casglu.]
Os na dalwch y taliadau fel y gorchmynnir, byddwch yn dod yn ôl i’r llys a gallech orfod mynd i’r carchar.
Ydych chi’n deall?
Ar gyfer diffygdalwyr presennol neu lle gorchmynnir talu iawndal [neu lle rhoddir caniatâd]
Rydym yn gwneud [gorchymyn atafaelu enillion] [gorchymyn tynnu arian o fudd-daliadau].
Os bydd y gorchymyn hwn yn methu am unrhyw reswm, rhaid i chi ei dalu ar gyfradd o £………… yr wythnos / mis gan ddechrau ar …………