Gohirio ar gyfer cael adroddiad safonol

Cyn i ni eich dedfrydu, mae angen i ni gael adroddiad gan y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid a fydd yn rhoi mwy o wybodaeth i ni amdanoch, yn seiliedig ar ein hasesiad cychwynnol o ddifrifoldeb eich troseddu. Caiff eich achos ei wrando ar ………… [nodwch y dyddiad] ac yn y cyfamser, mae’n rhaid i chi gydweithredu â’r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid er mwyn iddynt allu ysgrifennu’r adroddiad.

  • [Eglurwch eich asesiad ar sail y ffurflen gais am Adroddiad Cyn Dedfrydu a’r hyn rydych am i’r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid roi sylw iddo’n benodol yn yr adroddiad.
  • Eglurwch mai asesiad o ddifrifoldeb dros dro yn unig ydyw ac nad yw’n rhwymo’r fainc nesaf. Mae’r holl ddewisiadau dedfrydu yn agored o hyd.
  • Ymdriniwch â mechnïaeth fel sy’n briodol.]