Cyrsiau adsefydlu ar ôl troseddau yfed a gyrru (pobl ifanc 17 oed yn unig)

Rydym yn cynnig y cyfle i chi leihau cyfnod eich gwaharddiad o ………… wythnos drwy gwblhau’n llwyddiannus cwrs adsefydlu ar ôl yfed a gyrru erbyn …………

Bydd y cwrs yn para am o leiaf 16 awr a hynny dros gyfnod o nifer o ddyddiau. Bydd yn rhaid i chi dalu cost y cwrs.

Os ydych am gael y cyfle i leihau eich gwaharddiad, rhaid i chi ddweud wrthym yn awr. Ni allwn ei gynnig i chi yn hwyrach ymlaen. Nid ydych yn cael eich gorfodi i fynychu’r cwrs ond os nad ydych yn ei fynychu a’i gwblhau, a hynny hyd lefel y mae trefnwyr y cwrs yn fodlon arni, bydd yn rhaid i chi gwblhau holl gyfnod y gwaharddiad.

Ydych chi’n cytuno i ddilyn y cwrs?