Ni ddylech ddatgan unrhyw fanylion sy’n debygol o arwain aelodau o’r cyhoedd i adnabod [y diffynnydd] [y dioddefwr honedig] [y tyst] fel unigolyn sy’n ymwneud â’r achos. Mae hyn yn cynnwys ei enw, ei gyfeiriad, ei ysgol, ei sefydliad addysgol, ei waith neu unrhyw beth arall a allai ddatgelu pwy ydyw, yn cynnwys unrhyw lun llonydd neu symudol.
Mae’r cyfyngiad cyhoeddi yn cynnwys unrhyw gyfrwng print neu ddarlledu ynghyd â gwybodaeth a gyhoeddir ar-lein gan gynnwys safleoedd cyfryngau cymdeithasol, megis Facebook a Twitter.
Rydym o’r farn y byddai’r ofn neu’r trallod a achosir i’r unigolyn dan sylw drwy ddatgelu pwy yw’r person i’r cyhoedd yn debygol o leihau ansawdd ei dystiolaeth neu lefel ei gydweithrediad yn yr achoss.
Rydym yn gorfodi’r cyfyngiad hwn oherwydd …………
Bydd y gorchymyn yn weithredol am oes yr unigolyn dan sylw.
Mae torri’r gorchymyn yn drosedd.