Cyfyngiadau adrodd ar gyfer plant a phobl ifanc mewn achosion di-droseddol (A.39 Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933)

Ni ddylech ddatgan unrhyw fanylion sy’n debygol o arwain aelodau o’r cyhoedd i adnabod [y diffynnydd] [y dioddefwr honedig] [y tyst] fel unigolyn sy’n ymwneud â’r achos. Mae hyn yn cynnwys ei enw, ei gyfeiriad, ei ysgol, ei sefydliad addysgol, ei waith neu unrhyw beth arall a allai ddatgelu pwy ydyw, yn cynnwys unrhyw lun llonydd neu symudol.

Mae’r cyfyngiad cyhoeddi yn cynnwys unrhyw gyfrwng print neu ddarlledu ynghyd â gwybodaeth a gyhoeddir ar-lein gan gynnwys safleoedd cyfryngau cymdeithasol, megis Facebook a Twitter.

Rydym yn gorfodi’r cyfyngiad hwn oherwydd …………

Bydd y gorchymyn hwn yn weithredol nes bod yr unigolyn dan sylw yn 18 oed neu gwneir gorchymyn arall.

Mae torri’r gorchymyn yn drosedd.