Cosbau ariannol (dirwyon, iawndal, costau)

Dirwyon

  • Ar gyfer plant 10-13 oed, yr uchafswm yw £250.
  • Ar gyfer pobl ifanc 14-17 oed, yr uchafswm yw £1,000.
  • Os yw’r plentyn neu’r unigolyn ifanc dan 16 oed, mae’n ddyletswydd ar y llys i orchymyn i’r rhiant neu’r gwarcheidwad dalu oni bai:
    • nad yw’n bosibl dod o hyd i’r rhiant neu’r gwarcheidwad, neu
    • y byddai’n afresymol gwneud hynny, o ystyried holl amgylchiadau’r achos.
  • Os yw’r unigolyn ifanc yn 16 oed neu hŷn, mae’r ddyletswydd hon yn dod yn ddisgresiwn.

Am y trosedd o ………… rydym yn eich dirwyo £………… [Ailadroddwch fel bo angen.]

[Lle bo hynny’n briodol.] Rydym wedi lleihau’ch dedfryd oherwydd eich bod wedi pledio’n euog. Pe na baech wedi gwneud hynny, byddem wedi rhoi dedfryd o ………… i chi

Ein rhesymau yw …………

Rhaid i chi hefyd dalu gordal o £………… Defnyddir yr arian hwn i ariannu gwasanaethau i ddioddefwyr.

Iawndal

Am y trosedd o ………… rydym yn eich gorchymyn i dalu £………… o iawndal am yr [anaf][difrod][colled] a achoswyd i ………… [Ailadroddwch fel bo’r angen.]

Ein rhesymau yw …………

Costau

Rhaid i chi dalu £………… tuag at gostau’r erlyniad.

Ym mhob achos

Mae gennych gyfanswm o £………… i dalu. Mae hwn yn ddyledus yn awr. Ydych chi’n gallu ei dalu’n llawn heddiw?

Os gorchmynnir rhiant/gwarcheidwad i dalu

Rydym yn gwneud gorchymyn casglu, sy’n golygu y bydd swyddog dirwyon yn gwneud yn siŵr y telir y swm yn unol â’r gorchymyn ac yn egluro i chi sut y dylid ei dalu. Rhaid i chi dalu ar y diwrnod/dyddiau y’ch gorchmynnir i wneud hynny a rhaid i chi roi gwybod i’r swyddog dirwyon am unrhyw newid yn eich amgylchiadau ariannol neu eich cyfeiriad. [Nodwch y rhesymau os na wneir gorchymyn casglu.]

Os na fyddwch chi’n gwneud y taliadau fel y’ch gorchmynnir, byddwch yn cael eich galw yn ôl i’r llys a gallech gael eich anfon i garchar.

Ydych chi’n deall?