Atgyfeirio yn ôl i’r llys am beidio â chydymffurfio

Cawsoch orchymyn atgyfeirio am gyfnod o ………… mis ar ………… am y troseddau canlynol ………… Fodd bynnag, rydych nawr yn ôl yn y llys oherwydd [ni wnaethoch lofnodi’r contract][ni wnaethoch beth a ofynnwyd i chi ei wneud][ni wnaethoch fynychu’r cyfarfodydd].

Pan nad yw’r llys yn cymryd camau – Y tro hwn, rydym wedi penderfynu peidio â chymryd camau ynghylch y ffaith [na wnaethoch chi lofnodi’r contract][na wnaethoch beth a ofynnwyd i chi ei wneud][na wnaethoch chi fynychu’r cyfarfodydd]. Mae hyn oherwydd …………

Bydd y gorchymyn atgyfeirio yn parhau ac mae gennych ………… mis ar ôl dan y gorchymyn hwnnw. Mae angen i chi lynu wrth y contract a mynychu pob cyfarfod nes i’r gorchymyn ddod i ben.

Pan fydd y llys yn diddymu ac yn ailddedfrydu – Rydym wedi penderfynu y byddwn yn diddymu eich gorchymyn atgyfeirio a wnaethpwyd ar ………… [rhowch ddyddiad] ac yn rhoi dedfryd newydd i chi.

Ar gyfer y trosedd(au) o ………… bydd y ddedfryd yn [nodwch y ddedfryd newydd].

Mae hyn oherwydd …………

Ydych chi’n deall?

Pan fydd y llys yn gorfodi dirwy – Rydym wedi penderfynu delio â’r achos hwn o beidio â chydymffurfio â’r gorchymyn drwy orfodi dirwy o £…………

Mae hyn oherwydd …………

Wrth benderfynu ar y ddirwy hon, rydym wedi ystyried faint mae modd [i chi][i’ch rhiant/ gwarcheidwad] fforddio ei dalu.

Ydych chi’n deall?

Pan fydd y llys yn rhoi estyniad ar orchymyn atgyfeirio – Ar gyfer y trosedd(au) o ………… rydym yn rhoi estyniad o ………… mis ar eich gorchymyn atgyfeirio a wnaethpwyd ar ………… [rhowch ddyddiad]. Cyfnod newydd eich gorchymyn atgyfeirio yw ………… mis.

Mae hyn oherwydd …………

Ydych chi’n deall?

Ar gyfer pob datganiad pan fydd y gorchymyn atgyfeirio yn parhau am beidio â chydymffurfio – Os na fyddwch yn gwneud y pethau a restrir yn y gorchymyn atgyfeirio, os na fyddwch yn mynychu cyfarfodydd, neu os byddwch yn cyflawni unrhyw droseddau pellach, byddwch yn cael eich galw yn ôl i’r llys a gellir delio â chi mewn ffordd arall.

Ydych chi’n deall?