Atafaelu a dinistrio ci (a.67 Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022)

Rydym yn fodlon, wedi gwneud gorchymyn gwahardd, eich bod [yn berchen ar gi/gŵn] [yn cadw ci/cŵn] yn groes i’r gorchymyn ac rydym yn gwneud gorchymyn pellach bod y ci/cŵn ………… [nodwch enw / disgrifiad o’r ci / cŵn] yn cael ei feddiannu/eu meddiannu.

[neu]

Fe’ch cafwyd yn euog o dorri eich gorchymyn anghymwyso rhag [bod yn berchen ar gŵn][cadw cŵn] [bod yn berchen ar gŵn a chadw cŵn] a gwneir gorchymyn bod y ci(cŵn) …………  [rhowch enw/disgrifiad o’r ci(cŵn)] yn cael ei gymryd (eu cymryd) oddi arnoch.

Mae hyn oherwydd………… [nodwch resymau].

Gan mai [chi yw perchennog] [nid chi yw perchennog] y ci/cŵn, rydym hefyd yn gwneud y darpariaethau canlynol ar gyfer dinistrio’r ci/cŵn ………… [Nodwch fanylion].

[Os yn berthnasol.] Bydd y gorchymyn hwn yn cael ei atal tan ………… nodwch amser a dyddiad]. Mae hyn yn caniatáu amser i chi apelio yn erbyn y gorchymyn, os yr hoffech wneud hynny.

Mae’r llys yn gwneud y cyfarwyddiadau canlynol yn ystod y cyfnod atal ………… [Nodwch fanylion].

Rydym yn gwneud gorchymyn pellach bod rhaid i chi dalu £…………  am y costau sydd wedi codi o ran symud a gofalu am y ci/cŵn wrth gyflawni’r cyfarwyddiadau hyn.

Mae hyn oherwydd………… [nodwch resymau].

Rydym yn gwneud gorchymyn casglu, sy’n caniatáu i staff y llys sicrhau bod y swm yn cael ei dalu fel y gorchmynnwyd. Rhaid i chi dalu ar y diwrnod(au) y gorchmynnir ac mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r llys am unrhyw newid yn eich amgylchiadau ariannol neu eich cyfeiriad. [nodwch resymau os na wneir gorchymyn casglu.]

Os na fyddwch yn gwneud y taliadau fel y gorchmynnwyd, fe gewch eich galw yn ôl i’r llys a gallwch gael eich anfon i’r carchar.

Ydych chi’n deall?