Gwaharddiad rhag cael ci yn eich gofal (a.66 Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022)

Rydych wedi’ch cael yn euog o drosedd yn ymwneud â chŵn o dan [Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd –  tresmasu gyda’r bwriad o chwilio am, neu ddilyn, ysgyfarnogod â chŵn, neu rhodio â chyfarpar ar gyfer chwilio am neu ddilyn ysgyfarnogod gyda chŵn][Deddf Potsio Nos – cymryd neu ddinistrio anifeiliaid hela neu gwningod yn ystod y nos, neu fynd ar dir gyda’r bwriad o wneud hynny][Deddf Anifeiliaid Hela – tresmasu yn ystod y dydd i chwilio am anifeiliaid hela].

Rydym yn gwneud gorchymyn yn nodi eich bod wedi eich gwahardd rhag  [bod yn berchen ar gŵn][cadw cŵn][bod yn berchen ar gŵn a chadw cŵn] am gyfnod  o …………  mis/blwyddyn [Nodwch hyd y gorchymyn].

Mae hyn oherwydd ………… [Nodwch y rhesymau].

[Os yn berthnasol.]  Am gyfnod o  …………  [Nodwch gyfnod sydd yn hwy na 12 mis] ni allwch wneud cais i ddod â’r gorchymyn hwn i ben.

[Os yn berthnasol.] Bydd y gorchymyn gwahardd hwn yn cael ei atal tan …………  [Nodwch ddyddiad ac amser]. Mae hyn er mwyn inni allu gwneud ttrefniadau amgen  mewn perthynas â’r ci/cŵn.

Mae’r llys yn gwneud y cyfarwyddiadau canlynol yn ystod y gwaharddiad ………… [Nodwch fanylion].

Os na fyddwch yn cydymffurfio â’r gorchymyn hwn, byddwch yn cyflawni trosedd bellach.

Ydych chi’n deall?