Rydych yn cael eich remandio i lety awdurdod lleol tan ………… Tan hynny bydd ………… yn gyfrifol amdanoch/yn gofalu amdanoch [rhowch fanylion yr awdurdod lleol dynodedig].
Nid ydym yn caniatáu mechnïaeth i chi oherwydd:
- bod sail gref dros gredu’r canlynol:
- na fyddech yn dod yn ôl i’r llys, [a/neu]
- y byddwch yn cyflawni trosedd [a/neu]
- y byddwch yn ymyrryd â thystion neu’n rhwystro cwrs yr achos [a/neu]
- honnir y byddwch yn cyflawni trosedd ar fechnïaeth, oherwydd i’r trosedd hwn gael ei gyflawni ar fechnïaeth [a/neu]
- eich bod wedi cael eich rhyddhau ar fechnïaeth amodol yn flaenorol ac nad ydych wedi glynu at yr amodau hynny [a/neu]
- bod sail gref dros gredu y byddech yn cyflawni trosedd sy’n debygol o achosi, neu wneud i ………… [rhowch fanylion person cysylltiedig] ofni anaf corfforol neu feddyliol [a/neu]
- rydym wedi ein bodloni y dylid ei wrthod er eich lles chi eich hun [a/neu]
- eich bod eisoes yn bwrw dedfryd dan glo [a/neu]
- ein bod yn fodlon nad oes gennym ddigon o wybodaeth i benderfynu a ellir eich rhyddhau ai peidio [a/neu]
- dyma’r unig ffordd briodol o sicrhau y caiff adroddiad ei baratoi.
Rydym yn credu hyn oherwydd:
- difrifoldeb y trosedd a sut yr ymdrinnir â chi am ei gyflawni [a/neu]
- eich cofnod troseddol a’ch cefndir [a/neu]
- y rhoddwyd mechnïaeth i chi o’r blaen ond na fu i chi ufuddhau [a/neu]
- cryfder y dystiolaeth yn eich erbyn, [a/neu]
- fe allech ymddwyn mewn ffordd a allai achosi neu wneud i ………… [rhowch fanylion person cysylltiedig] feddwl y gallech achosi niwed iddynt [a/neu]
- [unrhyw berson perthnasol arall – rhowch fanylion.]
Rhaid i chi ddod yn ôl i’r llys ar ………… am ………… am/pm.
[Lle bo hynny’n berthnasol.] Cewch eich remandio i lety awdurdod lleol dan yr amodau canlynol …………
[Nodwch yn union beth fydd yr amodau, e.e.
- byw yn y man y caiff ei gyfarwyddo i fyw ynddo gan y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid/awdurdod lleol
- ble na chânt fyw
- cyflwyno’i hun mewn gorsaf heddlu
- dim cyswllt â thystion
- unrhyw amod arall angenrheidiol.]
Os byddwch yn torri unrhyw un o’r amodau, byddwch yn cael eich arestio ac yn gorfod dod yn ôl i’r llys a gallem benderfynu y dylech gael eich remandio i Lety Cadw Pobl Ifanc.