Ni ddylech ddatgan unrhyw fanylion sy’n debygol o arwain aelodau o’r cyhoedd i adnabod [y diffynnydd] [y dioddefwr honedig] [y tyst] fel unigolyn sy’n ymwneud â’r achos. Mae hyn yn cynnwys ei enw, ei gyfeiriad, ei ysgol, ei sefydliad addysgol, ei waith neu unrhyw beth arall a allai ddatgelu pwy ydyw, yn cynnwys unrhyw lun llonydd neu symudol.
Mae cyhoeddi’n cynnwys unrhyw gyfryngau printiedig neu ddarlledu’n ogystal â gwybodaeth a gyhoeddir ar-lein, gan gynnwys gwefannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter.
Gosodwn y cyfyngiad hwn oherwydd …………
Bydd y gorchymyn hwn yn para tan fydd yr unigolyn dan sylw’n 18 oed neu hyd nes y gwneir gorchymyn arall.
Mae torri’r gorchymyn yn drosedd.