Rydym yn eich remandio yn y ddalfa tan …………
Nid ydym yn rhoi mechnïaeth i chi oherwydd:
- mae seiliau sylweddol dros gredu:
(a) na ddowch yn ôl i’r llys [a/neu]
(b) y byddwch yn cyflawni trosedd [a/neu]
(c) y byddwch yn ymyrryd â thystion neu’n rhwystro cwrs yr achos [a/neu] - honnir eich bod wedi cyflawni’r trosedd hwn a chithau ar fechnïaeth [a/neu]
- cawsoch eich rhyddhau’n flaenorol ar fechnïaeth amodol ac ni wnaethoch gadw at yr amodau hynny.
[Yng nghyswllt unrhyw un o’r eithriadau uchod] a phe byddech yn cael eich collfarnu, credwn fod posibilrwydd gwirioneddol y byddwch yn derbyn dedfryd o garchar am y trosedd hwn [a/neu]
- Mae seiliau sylweddol dros gredu y byddwch yn cyflawni trosedd sy’n debygol o achosi, neu wneud i ………… [rhowch fanylion yr unigolyn cysylltiedig] ofni cael anaf corfforol neu feddyliol [a/neu]
- rydych wedi cael prawf positif am ………… [rhowch fanylion cyffur Dosbarth A] ond ni fyddech yn cytuno i gael asesiad cyffuriau a / neu driniaeth [a/neu]
- rydym yn fodlon bod hyn er mwyn eich diogelwch eich hun [a/neu]
- rydych eisoes yn garcharor yn y carchar [a/neu]
- rydym yn fodlon nad oes gennym ddigon o wybodaeth ac ni allwn wneud penderfyniad ar fechnïaeth
Credwn hyn oherwydd:
- natur a difrifoldeb y trosedd a pha ddedfryd a allai gael ei rhoi i chi amdano [a/neu]
- eich cofnod troseddol, cefndir personol a chymeriad [a/neu]
- nid ydych wedi cydymffurfio â mechnïaeth flaenorol [a/neu]
- cryfder y dystiolaeth yn eich erbyn [a/neu]
- y gallech ymddwyn mewn ffordd a allai achosi neu wneud i unigolyn cysylltiedig ofni cael anaf [a/neu]
- [unrhyw reswm perthnasol arall – rhowch fanylion.]
[Os yw’r gwrandawiad nesaf drwy gyswllt fideo, nodwch hynny] Ni chyflwynir chi gerbron y llys ar ………… yn hytrach byddwch yn cymryd rhan yn y gwrandawiad drwy gyswllt teledu byw, yr un fath â phe baech yma’n bersonol.