Remandio i lety cadw pobl ifanc set 1af o amodau (pobl ifanc 12-17 oed, troseddau neillffordd/ditiadwy yn unig)

Rydych yn cael eich remandio i lety cadw pobl ifanc tan ………… Tan hynny bydd ………… yn gyfrifol amdanoch/yn gofalu amdanoch [rhowch fanylion yr awdurdod lleol dynodedig].

Nid ydym yn caniatáu mechnïaeth i chi oherwydd:

  1. bod sail gref dros gredu’r canlynol:
    1. na fyddech yn dod yn ôl i’r llys [a/neu]
    2. y byddwch yn cyflawni trosedd [a/neu]
    3. y byddwch yn ymyrryd â thystion neu’n rhwystro cwrs yr achos [a/neu]
  2. honnir y byddwch yn cyflawni trosedd ar fechnïaeth, oherwydd i’r trosedd hwn gael ei gyflawni ar fechnïaeth [a/neu]
  3. eich bod wedi cael eich rhyddhau ar fechnïaeth amodol yn flaenorol ac nad ydych wedi glynu at yr amodau hynny [a/neu]
  4. bod sail gref dros gredu y byddech yn cyflawni trosedd sy’n debygol o achosi, neu wneud i ………… [rhowch fanylion person cysylltiedig] ofni anaf corfforol neu feddyliol [a/neu]
  5. rydym wedi ein bodloni y dylid ei wrthod er eich lles chi eich hun [a/neu]
  6. eich bod eisoes yn bwrw dedfryd dan glo [a/neu]
  7. ein bod yn fodlon nad oes gennym ddigon o wybodaeth i benderfynu a ellir eich rhyddhau ai peidio [a/neu]
  8. dyma’r unig ffordd briodol o sicrhau y caiff adroddiad ei baratoi.

Rydym yn credu hyn oherwydd:

  1. difrifoldeb y trosedd a sut yr ymdrinnir â chi am ei gyflawni [a/neu]
  2. eich cofnod troseddol a’ch cefndir [a/neu]
  3. y rhoddwyd mechnïaeth i chi o’r blaen ond na fu i chi ufuddhau [a/neu]
  4. cryfder y dystiolaeth yn eich erbyn [a/neu]
  5. fe allech ymddwyn mewn ffordd a allai achosi neu wneud i ………… [rhowch fanylion yr unigolyn cysylltiedig] feddwl y gallech achosi niwed iddynt [a/neu]
  6. [unrhyw unigolyn perthnasol arall – rhowch fanylion.]

Rydych wedi eich cyhuddo o drosedd [ddifrifol] [dreisgar] [rywiol] ac rydym yn fodlon ei bod yn debygol iawn y byddwch yn cael dedfryd o garchar am y cyfryw drosedd(au).

Mae remand i lety ar gyfer cadw pobl ifanc yn angenrheidiol i:

a) ddiogelu’r cyhoedd rhag marwolaeth neu niwed difrifol a achoswyd gan droseddau pellach a gyflawnwyd gennych oherwydd …………

[neu]

b) i’ch atal rhag cyflawni troseddau y gellir rhoi dedfryd o garchar ac na ellir rheoli’r risgiau a achosir gennych yn ddiogel yn y gymuned oherwydd …………

Wrth ddod i’n penderfyniad rydym wedi ystyried remandio’r plentyn i lety awdurdod lleol, eich buddiannau a’ch lles.