Rydych yn cael eich remandio i lety awdurdod lleol tan ………… Tan hynny bydd ………… yn gyfrifol amdanoch/yn gofalu amdanoch [rhowch fanylion yr awdurdod lleol dynodedig].
Nid ydym yn caniatáu mechnïaeth i chi oherwydd:
- bod sail gref dros gredu’r canlynol:
- na fyddech yn dod yn ôl i’r llys [a/neu]
- y byddwch yn cyflawni trosedd [a/neu]
- y byddwch yn ymyrryd â thystion neu’n rhwystro cwrs yr achos [a/neu]
- honnir y byddwch yn cyflawni trosedd ar fechnïaeth, oherwydd i’r trosedd hwn gael ei gyflawni ar fechnïaeth [a/neu]
- eich bod wedi cael eich rhyddhau ar fechnïaeth amodol yn flaenorol ac nad ydych wedi glynu at yr amodau hynny [a/neu]
- bod sail gref dros gredu y byddech yn cyflawni trosedd sy’n debygol o achosi, neu wneud i ………… [rhowch fanylion yr unigolyn cysylltiedig] ofni anaf corfforol neu feddyliol [a/neu]
- rydym wedi ein bodloni y dylid ei wrthod er eich lles chi eich hun [a/neu]
- eich bod eisoes yn bwrw dedfryd dan glo [a/neu]
- ein bod yn fodlon nad oes gennym ddigon o wybodaeth i benderfynu a ellir eich rhyddhau ai peidio [a/neu]
- dyma’r unig ffordd briodol o sicrhau y caiff adroddiad ei baratoi.
Rydym yn credu hyn oherwydd:
- difrifoldeb y trosedd a sut yr ymdrinnir â chi am ei gyflawni [a/neu]
- eich cofnod troseddol a’ch cefndir [a/neu]
- y rhoddwyd mechnïaeth i chi o’r blaen ond na fu i chi ufuddhau [a/neu]
- cryfder y dystiolaeth yn eich erbyn [a/neu]
- fe allech ymddwyn mewn ffordd a allai achosi neu wneud i ………… [rhowch fanylion yr unigolyn cysylltiedig] feddwl y gallech achosi niwed iddynt [a/neu]
- [unrhyw unigolyn perthnasol arall – rhowch fanylion.]
Rydych wedi eich cyhuddo o drosedd sy’n destun dedfryd o garchar ac rydym yn fodlon ei bod yn debygol iawn y byddwch yn cael dedfryd o’r fath.
Mae gennych hanes diweddar ac arwyddocaol o ddianc tra’ch bod yn destun remand dan glo, ac mae’n ymddangos i’r llys fod yr hanes yn berthnasol yn holl amgylchiadau’r achos; a dywedir i’r drosedd hon gael ei chyflawni tra ar remand o’r fath. [ a/neu]
Mae’r drosedd hon, ynghyd ag eraill yr ydych wedi’ch cael yn euog o’u cyflawni, yn dangos hanes diweddar ac arwyddocaol o gyflawni troseddau y gellir rhoi dedfryd o garchar tra ar fechnïaeth neu’n destun remand dan glo ac mae’n ymddangos i’r llys bod hyn yn berthnasol o dan holl amgylchiadau’r achos oherwydd …………
Mae remand i lety cadw pobl ifanc yn angenrheidiol [i amddiffyn y cyhoedd rhag marwolaeth neu niwed difrifol gennych] [i’ch atal rhag cyflawni troseddau carcharol pellach oherwydd …………