Dedfryd o garchar

Rydym yn eich anfon i [garchar] [sefydliad troseddwyr ifanc] am gyfnod o ………… diwrnod/wythnos/mis.

  • [Nodwch bob trosedd.
  • Nodwch y cyfnod o garchar.
  • Nodwch a yw’n gydredol neu’n ddilynol.]
  1. Mae’r trosedd(au) mor ddifrifol fel bod cyfiawnhad dros roi dedfryd o garchar [neu]
  2. Rydych wedi methu’n fwriadol a pharhaus i gydymffurfio â’ch gorchymyn cymunedol. [neu]
  3. Rydych wedi gwrthod cytuno i ni wneud gofyniad ………… ar orchymyn cymunedol.

Ein rhesymau yw:

[Rhowch eich rhesymau]

[Os yw’n berthnasol] Rydym wedi lleihau eich dedfryd oherwydd eich bod wedi pledio’n euog. Pe na fyddech wedi pledio’n euog, byddai wedi bod yn …………

Lle mae’r diffynnydd wedi bod ar gyrffyw mechnïaeth â thag cymwys

Rydych eisoes wedi treulio […………nodwch yma nifer y dyddiau] ar gyrffyw mechnïaeth â thag ac wedi gorfod aros mewn cyfeiriad penodol am naw awr neu fwy pob dydd.

[Os yw’r diffynnydd yn dal ar gyrffyw â thag] Nid ydym yn cyfrif heddiw gan y byddwch yn treulio amser yn y carchar.

[Os yw’n berthnasol] Rydym yn lleihau’r cyfnod hwn […………nodwch yma nifer y dyddiau] oherwydd yr oeddech am gael eich rhyddhau o’r carchar dros dro / eich bod yn destun gorchymyn oedd yn cynnwys ei bod yn ofynnol gwisgo tag.

O’r herwydd, mae […………nodwch yma nifer y dyddiau h.y. cyfnod y credyd a gyfrifwyd] yn cyfrif tuag eich dedfryd.

Bydd y gwasanaeth carchardai yn cyfrifo sut y bydd yn cael effaith ar eich dyddiad rhyddhau. Os bu camgymeriad wrth ddod i’r ffigur hwn, mae modd ei gywiro heb i chi orfod dod yn ôl i’r llys.

[Os yw’n berthnasol] Bydd unrhyw amser a dreulir ar remand yn cael ei gyfrifo gan yr awdurdod priodol.

Fel arfer, byddwch yn cael eich rhyddhau ar drwydded unwaith yr ydych wedi treulio hanner eich dedfryd yn y carchar. Bydd eich trwydded yn parhau hyd at ddiwedd eich dedfryd ac os cewch eich euogfarnu o drosedd bellach neu os byddwch yn torri unrhyw ofynion eraill eich trwydded, gallech orfod dychwelyd i’r carchar.

Ar ddiwedd cyfnod eich trwydded, byddir yn eich goruchwylio ymhellach yn y gymuned. Daw’r oruchwyliaeth i ben 12 mis wedi dyddiad eich rhyddhau o’r carchar. Os nad ydych yn cydymffurfio â thelerau’r oruchwyliaeth hon, gallech orfod dod yn ôl i’r llys a chael cosb bellach a allai gynnwys eich anfon i garchar.

[Os yw’n berthnasol.] Fel gwladolyn tramor sydd wedi ei ddedfrydu i garchar am 12 mis, gallwch gael eich allgludo. Y Swyddfa Gartref sy’n gwneud y penderfyniad hwn, nid y llys, a nhw fydd yn cysylltu â chi.

Ydych chi’n deall?

[Os yw’n berthnasol ystyriwch unrhyw orchmynion ategol, iawndal a/neu waharddiad.]